Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol (GDS) i breswylwyr ledled ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae'n comisiynu gwasanaethau gan gontractwyr annibynnol drwy Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2026.
Mae 59 o Bractisau Deintyddol Cyffredinol sy'n darparu gofal deintyddol i gleifion, fel arfer rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
Ers 2006, nid yw cleifion wedi'u "cofrestru" gyda phractis deintyddol. Cyfri foldeb y clei fion yw mynychu eu hapwyntiad deintyddol.
Os nad ydych chi'n mynychu practis deintyddol yn rheolaidd a bod angen gofal deintyddol brys arnoch, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Deintyddol ar 01633 744387 neu e-bostiwch ABB.Dental.Helpline@wales.nhs.uk, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:00am-12:15pm a 1:15pm-4:00pm. Dylai cleifion fod yn ymwybodol, os ydynt yn ffonio'r Llinell Gymorth Deintyddol am ofal deintyddol brys gyda'r nos (6.30pm-8am), dim ond cyngor y byddant yn ei dderbyn gan nad oes apwyntiadau deintyddol ar gael yn ystod yr amser hwn. Yn ystod penwythnosau a gwyliau’r banc, gall cleifion hefyd ffonio’r Linell Cymorth Deintyddol ac mae nifer gyfyngedig o apwyntiadau brys ar gael yng Nghanolfan Iechyd a Lles 19 Hills, Ringland ac/neu gellir cael cyngor. Gall cleifion hefyd fynd i'w fferyllfa gymunedol leol i ofyn am gyffuriau lleddfu poen a chyngor ar feddyginiaeth dros y cownter. Os bydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn cais i newid gwasanaeth, bydd y Bwrdd Iechyd yn ystyried yr holl opsiynau ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Deintyddol Lleol Gwent a chorff llais y dinasyddion, Llais. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau deintyddol, ewch i Ddeintydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)
Nid yw'r practisau deintyddol isod yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion mwyach:
Ni fydd y practisau deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion o 1 Ebrill 2026 ymlaen:
Ni fydd y practisau deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion o 23 Mehefin 2026 ymlaen:
Ni fydd y practisau deintyddol canlynol yn darparu gofal deintyddol y GIG i gleifion o 1 Awst 2026 ymlaen:
Gofynnir i gleifion yr effeithir arnynt gofrestru eu manylion ar y Porth Mynediad Deintyddol.
Porth Mynediad Deintyddol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Bydd y Porth Mynediad Deintyddol yn darparu platfform canolog i Fyrddau Iechyd ddyrannu lleoedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol mewn practisau deintyddol y GIG, gan wneud mynediad yn symlach ac yn decach i bawb.