1. Agorwch eich porwr gwe a theipiwch gyfeiriad gwe’r gwasanaeth yn y bar cyfeiriad (nid y blwch chwilio).
2. I ddechrau eich galwad, naill ai:
• cliciwch Enter Waiting Area
• neu cliciwch ar y botwm Start Video call a dewiswch eich man aros.
3. Os gofynnir i chi, caniatewch i’ch porwr gael mynediad at eich camera a’ch microffon.
4. Dilynwch yr anogwyr ar y sgrin i ddechrau eich galwad fideo.
5. I ddod â’r alwad i ben, cliciwch ar y botwm Leave.