Neidio i'r prif gynnwy

Cyfamod y Lluoedd Arfog - Popeth sydd angen i chi ei wybod

Rydym yn falch o fod wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Dyma yw ein haddewid i’r rheiny sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu wedi gwasanaethu yn y gorffennol yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, eu bod yn cael eu trin yn deg. Rydym wedi ymrwymo i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi eu cymuned drwy gydnabod eu gwerth fel Personél Gwasanaethol Rheolaidd ac Wrth Gefn, Cyn-filwyr, a theuluoedd milwrol, a’u cyfraniad i’n sefydliad a’n gwlad.

Byddwn yn sicrhau bod aelodau cymuned y Lluoedd Arfog yn derbyn y gefnogaeth i gael mynediad at yr un gwasanaethau ag unrhyw unigolyn arall yng Nghymru.

Mae sesiwn ar-lein am ddim ar gael yma sy’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel staff y GIG - https://covenantfund.org.uk/resources/raising-awareness-of-the-armed-forces-covenant/

 

Egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog

Drwy arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym wedi ymrwymo i gynnal y prif egwyddorion sef:

  • Ni ddylai unrhyw aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog wynebu anfantais yn y ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus a masnachol i unrhyw ddinesydd arall.
  • Mewn rhai amgylchiadau, gall triniaeth arbennig fod yn briodol, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi’u hanafu neu sy’n galaru.

 

Arddangos Ein Hymrwymiad

  • Hyrwyddo’r ffaith ein bod yn sefydliad sy’n Ystyriol o’r Lluoedd Arfog;
  • Ceisio cefnogi cyflogaeth cyn-filwyr hen ac ifanc sy’n gweithio gyda’r Bartneriaeth Newid Gyrfa (CTP), er mwyn sefydlu llwybr cyflogaeth wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gadael y Gwasanaeth.
  • Ymdrechu i gefnogi cyflogaeth partneriaid a phartneriaid priod Gwasanaeth;
  • Gwneud yr ymdrech i gynnig elfen o hyblygrwydd wrth ganiatáu absenoldeb i bartneriaid a phartneriaid priod Gwasanaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl adleoliad eu partner.
  • Ceisio cefnogi’n gweithwyr sy’n dewis bod yn aelodau o’r lluoedd wrth gefn, yn cynnwys drwy alluogi eu hyfforddiant a’u datblygiad lle bo modd;
  • Cynnig cefnogaeth i’n cadetiaid lleol, naill ai yn ein cymuned leol neu mewn ysgolion lleol lle bo modd;
  • Ceisio cymryd rhan weithredol yn Niwrnod y Lluoedd Arfog;
  • Cynnig gostyngiad i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog
  • Byddwn yn darparu diweddariadau ar ein hymrwymiadau yma ar ein gwefan a byddwn yn gwahodd adborth gan y gymuned Gwasanaeth a’n defnyddwyr gwasanaeth ynglŷn â sut rydym yn cael ymlaen.