Neidio i'r prif gynnwy

Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion yng Ngwent

Diweddariad Mehefin 2021

Yn dilyn ein Ymgysylltiad Cyhoeddus, rydym wedi cwblhau dadansoddiad o’r ymatebion ac holl sylwadau cafodd eu cyflwyno. Mae’r adroddiad ac dadansoddiad wedi’i cyflwyno i Dîm Weithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Pwyllgor Cyngor Iechyd Cymunedol Gwent.

Mae’r cynnwys ar gael yn y dogfennau isod, sydd ar gael i'w ddarllen a'u lawrwytho:

Crynodeb yr Ymgysylltiad Cyhoeddus gyda Dadansoddiad Thema

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb- Atodiad 4

Byddwn yn cyhoeddi’r camau nesaf mor fuan â phosib.


Diweddariad Mawrth 2021

Daeth ein Ymgynghoriad Cyhoeddus ar drawsnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion i ben ar y 21ain o Chwefror 2021. 

Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiadau a’r cyfarfodydd rhithwir, unai fel grŵp neu fel unigolion; a diolch hefyd am bob cyswllt uniongyrchol a wnaed gyda ni. Mae hyn wedi rhoi llawer iawn o wybodaeth werthfawr i’r Tîm Ymgysylltu ar IMAD a byddwn yn gweithio ein ffordd trwyddi er mwyn llunio adroddiad a dadansoddiad cychwynnol.

Gwahoddwyd y Tîm Ymgysylltu ar IMAD i gyfarfodydd a gweithgareddau gyda rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Bu i ni gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn ogystal â chyfarfodydd gyda’n cydweithwyr o fewn y gweithlu. Yn ogystal â’r ymatebion i’r arolwg, rhannwyd safbwyntiau a phrofiadau ym mhob un o’r cyfarfodydd yma, a bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad. 

Mae’r Tîm Ymgysylltu ar IMAD ar hyn o bryd yn llunio’r adroddiad a’r dadansoddiad o safbwyntiau a’r profiadau a rannwyd gan y Cyhoedd, Defnyddwyr Gwasanaeth, Gofalwyr, Partneriaid Gwasanaeth, rhanddeiliaid y gwasanaeth IMAD a’n gweithlu.

Bydd yr ymatebion a’r dadansoddiad yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Ebrill 2021.

Bydd yr adroddiad a’r dadansoddiad yn cael eu cyflwyno i Uwch Dîm BIPAB a Phwyllgor Cyngor Iechyd Cymunedol Gwent ym mis Mai 2021 a bydd argymhellion o ran y camau nesaf yn cael eu gwneud yn dilyn y cyfarfodydd yma.

Mae’r amser yr ydych wedi ei gymryd er mwyn cymryd rhan, yn ogystal â’ch safbwyntiau a’ch profiadau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
 


Mae’n bleser gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu lansio ymgysylltiad cyhoeddus newydd yn swyddogol fel modd o wella gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion ar draws Gwent.

Hoffai’r Bwrdd Iechyd wahodd trigolion Gwent i rannu eu profiadau a’i barn ar sut y gallwn drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion Gwent. Ein nod yw darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu tosturiol ac o safon uchel, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n gweithio’n galed i greu canlyniadau ardderchog i unigolion a’u gwarchodwyr.

Mae’r trafodaethau sy’n digwydd yn rheolaidd o fewn ein gwasanaethau wedi ein helpu i feddwl mewn ffordd wahanol ynglŷn â sut y gallwn ail ddylunio ein gwasanaethau iechyd meddwl. Gwyddom nad yw’r gwasanaethau bob amser yn teimlo’n gydgysylltiedig. Rydym eisiau i bob unigolyn sy’n derbyn cymorth gael y profiad a’r canlyniadau gorau posibl.  Rydym eisiau i bobl allu cael mynediad at wasanaethau o safon uchel, mor agos â phosibl i’w cartref arferol, yn eu cymunedau. Bydd hyn yn eu helpu i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty pan fydd hynny’n bosibl. Pan fydd unigolion angen cefnogaeth mewn ysbyty, rydym eisiau iddynt deimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y staff iawn, yn yr amgylchedd iawn. Rydym eisiau gweld cytundeb ar ganlyniadau pendant a phwyslais ar wella.

Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio’r ymgysylltiad ffurfiol yma er mwyn gofyn barn pobl ar ein syniadau a’n cynigion. Er mwyn datblygu’r gwasanaethau gorau posib, rydym eisiau cymryd barn cymaint o bobl ag sy’n bosibl i ystyriaeth, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau, gofalwyr, ffrindiau, teuluoedd, ein staff a’n partneriaid. Mae’n holl bwysig o ran y dyfodol ein bod yn cael cefnogaeth y rheiny sy’n defnyddio ein gwasanaethau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd, er mwyn i ni allu cyflwyno model gwasanaeth iechyd meddwl sydd wedi ei ddylunio ar y cyd rhwng y rheiny sy’n defnyddio ac yn darparu’r gwasanaethau.

Byddem yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgysylltiad yma a rhoi eu barn. Gwyddom o’r adborth yr ydym wedi ei dderbyn eisoes bod egni a dyhead i weithio gyda’n gilydd er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Gwent. Mae’r ymgysylltiad ffurfiol yma’n cynnig cyfle ardderchog i ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl blaengar sy’n canolbwyntio ar wellhad ac sy’n cynnig gofal, tosturi a chefnogaeth ragweithiol. Drwy weithio gyda’n gilydd i siapio ein cynlluniau, gall pawb wneud gwahaniaeth positif.

 

Cysylltwch â Ni

Os hoffech ofyn cwestiwn, gallwch chi yn unrhyw un o'n digwyddiadau neu;

e-bost : ABB.MHLDEngagement@wales.nhs.uk

Neu Freepost ; Adran MHLD Gwent
Lodge Rd,
Caerllion,
Casnewydd
NP18 3XQ

 

Dogfennau Ymgynghoriad Cyhoeddus

Dogfennau Hawdd i'w Darllen

 

Dyddiad cau ar gyfer yr Ymgynghoriad Cyhoeddus: 21 Chwefror 2021

Sut i Ymuno â Chyfarfodydd Cyhoeddus

Bydd y Cyfarfodydd Cyhoeddus canlynol yn cael eu cynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.

Gellir ymuno â'r cyfarfodydd ar eich cyfrifiadur ney ddyfeis symudol trwy glicio ar ddolen y cyfarfod yn y tabl isod:

Dydd Mercher 13eg Ionawr 2021

10:00-11:30

Dydd Sul 17eg Ionawr 2021

13:00-14:30

Dydd Gwener 22ain Ionawr 2021

14:00-15:30

Dydd Sadwrn 30ain Ionawr 2021

14:00-15:30

Dydd Mercher 10fed Chwefror 2021

10:00-11:30

Dydd Mercher 17eg Chwefror 2021

17:00-18:30

Dydd Gwener 19eg Chwefror 2021 10:00-11:30

 

Ymddygiad Cyfarfodydd Cyhoeddus Agenda i Gyfarfod Cyhoeddus
  • Bydd pob cyfarfod yn cael ei gofnodi i'w archwilio ac i gefnogi wrth gasglu unrhyw gwestiynau 
  • A all pawb sy'n bresennol aros ar 'MUTE' oni bai eu bod yn gofyn cwestiwn 
  • Os oes gennych gwestiwn am y cynnwys ymgysylltu hwn yr hoffech ei gyflwyno cyn y cyfarfod, gallwch wneud hynny drwy ymateb i'r e-bost hwn. 
  • Rhoddir cyflwyniad yn y cyfarfod yn amlinellu beth sy'n digwydd nawr a'n syniadau. 
  • Bydd cyfle Holi ac Ateb yn y cyfarfod, gallwch ofyn cwestiynau am ein syniadau. 

Sylwch: Os nad oes gennych Microsoft Teams ar eich dyfais, bydd angen i chi ei lawrlwytho cyn y cyfarfod i'ch galluogi i gael mynediad i'r cyfarfod (mae Ap Microsoft Teams yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho) Cysylltwch â ni ar ABB.MHLDEngagement@wales.nhs.uk os oes angen cyfarwyddiadau arnoch ar sut i wneud hyn.

 

Cwestiynau Cyffredin

Dyma ambell i gwestiwn sy’n cael eu gofyn yn aml. Byddwn yn ychwanegu at y tudalennau wrth i ni dderbyn mwy o gwestiynau.  

 

Fideos

Mae'r fideos hyn yn cefnogi i lywio'r newidiadau yr ydym am eu harchwilio gyda chi i drawsnewid rhai o'n gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion:

1.  Cyflwyniad Ymgysylltu

 2. Aros yn iach (Haen sylfaenol)

 3. Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol

 4. Y Gwasanaeth Argyfwng

 5. Uned Arbennig Gwasanaethau Cleifion Preswyl

 

6. Astudiaeth Achos Cynllun Cysylltu Bywydau De Ddwyrain Cymru- Stori Nikita