Mae’r Fforwm Iechyd Cymunedau Amrywiol wedi bodoli ers mis Ionawr 2020 ac mae wedi parhau i gyfarfod bob hyn a hyn drwy gydol y flwyddyn, gyda chyfarfodydd bellach yn cael eu cynnal bob chwarter.
Hyd yma, mae tîm Ymgysylltu’r Bwrdd Iechyd wedi cyflawni’r canlynol:
Trefnu sesiynau cymunedol pwrpasol ar gyfer y Gymuned Roma yng Nghasnewydd ar y cyd â Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Cefnogi’r sefydliad Kidcare4u gyda sesiynau pwrpasol ar gyfer grwpiau merched a phresenoldeb mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Pill.
Cymryd rhan mewn Digwyddiad Iechyd ar gyfer cymunedau amrywiol ym mis Medi 2022 yn Nhŷ Cymunedol, Heol Eton, Casnewydd, lle cynhaliwyd Gwiriadau Iechyd gan Feddygon Mwslimaidd Cymru ac amrywiaeth o wasanaethau yn darparu gwybodaeth i’r 110 o bobl a fynychodd.
Mynychu Ffair y Glas ESOL (ar gyfer dysgwyr Saesneg fel ail iaith) Coleg Gwent ym mis Hydref 2022.
Rhannu asedau Helpu Ni Helpu Chi mewn ieithoedd gwahanol gydag aelodau'r fforwm.
Parhau i ddefnyddio 'WhatsApp' i ymgysylltu â chymunedau amrywiol.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gweithio ag Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd i ddarparu gwybodaeth y Bwrdd Iechyd i’r cyfansoddiad uchel o deuluoedd o gefndiroedd amrywiol y mae eu plant yn mynychu'r ysgol hynny.