Mae anghenion iechyd pobl yn newid. Mae mwy o bobl yn byw'n hirach gyda chyflyrau iechyd cymhleth, tra bod y GIG yn wynebu galw cynyddol, heriau i'r gweithlu a phwysau ariannol.
Gall gweithio gyda'n gilydd ar draws y rhanbarth ein helpu i:
Gwella mynediad at ofal
Lleihau amseroedd aros
Rhannu arbenigedd, profiad, cyfleusterau ac adnoddau'r GIG
Darparu gwasanaethau mwy cyson ledled de-ddwyrain Cymru
Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd
Adeiladu gwasanaethau sy'n gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Yn bwysicaf oll, mae cydweithio rhanbarthol yn ein helpu i ddarparu'r gofal gorau posibl i bobl ledled de-ddwyrain Cymru.