Ymwelydd tramor yw person nad yw fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn darparu gofal iechyd i bobl sy'n byw yn y DU felly nid oes gan bobl nad ydynt fel arfer yn byw yn y wlad hon hawl awtomatig i ddefnyddio'r GIG yn rhad ac am ddim.
Mae hyn waeth beth fo'u cenedligrwydd, p'un a ydynt yn dal pasbort Prydeinig, neu wedi byw yn y wlad hon ac wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi iddi yn y gorffennol.
Os ydych chi'n ymwelydd â'r DU, gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant meddygol ar gyfer holl driniaethau'r GIG yn ystod eich amser yma. Sicrhewch hefyd fod gennych eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) dilys gan y bydd angen ei sganio ar gyfer holl driniaethau'r GIG gan gynnwys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac unedau mân anafiadau.