Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu am Went Gydol y Gaeaf

Mae’r gaeaf wedi cyrraedd – boreau a nosweithiau tywyll, mae rhew, eira a gwyntoedd oer yn golygu efallai ein bod ni i gyd angen ychydig o ofal ychwanegol, felly rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi a'ch anwyliaid fod yn ddiogel ac yn gyfforddus trwy'r gaeaf.

Waeth pa mor hen ydyn nhw, mae pawb yn fwy agored i annwyd, ffliw a heintiau yn y gaeaf. Gall y tywydd oer achosi ddigonedd o salwch, yn enwedig os ydych yn berson hŷn neu os oes gennych gyflwr iechyd hirdymor, fel asthma, diabetes neu gyflwr y galon.

Trwy ddilyn y cyngor isod, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i ofalu am Went gydol y Gaeaf hwn.

 

 

Gofalu am Eich Lles Meddyliol

 

Mae gofalu am ein lles meddyliol ein hunain, a lles ein hanwyliaid, hyd yn oed yn bwysicach yn ystod misoedd y Gaeaf.

Ynghyd â’n partneriaid, rydym wedi datblygu Melo- gwefan i ofalu am les meddwl pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn; Torfaen, Casnewydd, Sir Fynwy, Caerffili, Blaenau Gwent. Mae Melo yma i'ch helpu chi i ddatblygu sgiliau newydd a fydd yn eich cefnogi pan fydd bywyd yn anodd.

Rhai awgrymiadau i helpu i roi hwb i'ch hwyliau a'ch iechyd meddwl y gaeaf hwn:

 

 

 

Cadw'n Gynnes

Gwyddom ei bod hi'n anoddach cynhesu'ch cartref eleni nag erioed o'r blaen, ond gall cadw'n gynnes wneud gwahaniaeth enfawr i'ch cadw'n iach.

Os nad ydych yn symudol iawn, yn 65 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych gyflwr iechyd, fel clefyd y galon neu'r ysgyfaint, dylech gynhesu eich cartref i o leiaf 18C. Dylai pawb gadw eu hystafell wely ar 18C drwy'r nos os gallant, a chadw ffenestr y llofft ar gau. Er mwyn sicrhau bod eich system wresogi mor effeithlon â phosibl, gofynnwch i weithiwr proffesiynol cymwys ei wirio'n rheolaidd.

 

 

 

Lles drwy wres

Mae Lles drwy Wres yn ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd dan arweiniad Age Cymru, i dynnu sylw at y buddion iechyd pwysig wrth i chi ddiogelu eich hun a chadw eich cartref yn gynnes.

Meddwl Am Gymdogion a Pherthnasau Fregus

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Symud yn Ddiogel

 

Cael eich Diogelu rhag Ffliw a Covid-19

 

 

 

Llenwi'ch Cwpwrdd Meddyginiaeth

 

 

 

Osgoi Lledaenu Heintiau'r Gaeaf

 

Mae peswch, annwyd, dolur gwddf, ffliw, Covid-19 a salwch a dolur rhydd yn fwy cyffredin yn ystod misoedd y gaeaf. Os oes gennych unrhyw un o'r heintiau hyn, dylech allu rheoli'r symptomau gartref drwy orffwys, cymryd paracetamol neu ibuprofen a sicrhau eich bod yn yfed digon o hylifau.

Mae'r heintiau'r gaeaf hyn yn lledaenu'n gyflym ac yn hawdd. Os oes gennych unrhyw symptomau, cofiwch geisio lleihau’r risg o’i ledaenu…

EI DAL
Mae germau yn lledaenu'n hawdd. Cariwch hancesi a'u defnyddio i ddal eich peswch neu disian
EI DAFLU
Gall germau fyw am oriau ar hancesi. Cewch gwared ar eich hances cyn gynted â phosib.
EI DDIFFA
Gall dwylo drosglwyddo germau i bob arwyneb rydych chi'n ei gyffwrdd. Glanhewch eich dwylo cyn gynted ag y gallwch.

 

Aros Gartref Pan Fyddwch Chi'n Anhwylus

 

 

 

 

 

Helpu Anwylyn i Adael yr Ysbyty

 

 

Mae ein hysbytai yno i ofalu amdanoch chi a'ch anwyliaid pan fyddwch ein hangen. Pan fydd claf yn ddigon iach i ddychwelyd adref eto, mae'n bwysig iawn ei fod yn mynd adref cyn gynted â phosibl i atal ei gorff rhag gwaethygu, a allai arwain at ddirywiad cyffredinol mewn iechyd, symudedd ac annibyniaeth.

 

 

 

 

 

Dewis y Gwasanaeth Iawn, y Tro Cyntaf

 

Defnyddiwch Ganllaw Iechyd Gwent i ddod o hyd i'r gwasanaeth iechyd a lles cywir i chi ac eraill: