Os ydych wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom rydych mewn perygl o feichiogi. Gallwch chi gymryd tabledi hyd at 5 diwrnod ar ôl rhyw heb ddiogelwch ac mewn rhai amgylchiadau gellir gosod coil copr hyd yn oed yn hwyrach ar ôl rhyw heb ddiogelwch.
Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch, ffoniwch ni ar 01495 765065 a byddwn yn eich asesu ar frys ac yn darparu opsiynau atal cenhedlu brys priodol i chi.
Mae llawer o fferyllfeydd lleol hefyd yn darparu atal cenhedlu brys (‘y bilsen bore wedyn’) am ddim. I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch ‘darparu dulliau atal cenhedlu brys’ o'r gwymplen ar y chwith.
Gwybodaeth bellach am atal cenhedlu brys ewch i Emergency Contraception | Contraception Choices