Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cludiant Cymunedol a Gwirfoddol

Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA)

Gall Cymdeithasau Cludiant Cymunedol eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr cludiant cymunedol neu wirfoddol yn eich sir. Mae hyn yn ddefnyddiol os nad ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cludo cleifion ac na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn wasanaethau lleol sydd wedi'u teilwra i anghenion y teithiwr. Maent yn darparu cludiant i bobl a fyddai fel arall dan anfantais oherwydd oedran, symudedd, anabledd neu leoliad ac yn gweithredu gwasanaeth drws i ddrws pwrpasol.

Ledled Cymru, mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr trafnidiaeth gymunedol yn helpu pobl i aros yn annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol a chyflogaeth.

Ffôn: 01792 844 290

Ewch i wefan CTA am ragor o wybodaeth

 

Help gyda chostau

Dychwelyd adref o'r ysbyty
Os ydych yn cael trafferth dychwelyd adref, siaradwch ag aelod o staff, fel y gallant helpu os yn bosibl. Gall prif nyrsys ward a rheolwyr safle ysbyty ystyried talu am dacsi dan gontract os nad oes unrhyw gludiant arall ar gyfer cleifion oedrannus bregus a theuluoedd ifanc bregus. Penderfyniad y prif nyrs ward a rheolwr safle'r ysbyty yw'r penderfyniad terfynol.

 

Eich helpu i gynllunio eich taith

Mae'n bwysig meddwl yn gynnar sut y byddwch yn cyrraedd ac yn gadael eich apwyntiad ysbyty. Dylech ofyn i deulu/ffrindiau/gofalwyr wirio a fyddent yn gallu eich casglu. Os oes gennych fagiau/eitemau ychwanegol trefnwch i'r rhain gael eu casglu cyn i chi gael eich rhyddhau. Gwiriwch amserlenni neu wefannau trafnidiaeth gyhoeddus fel isod. I’ch helpu i gynllunio’ch taith, dyma rai opsiynau ar gyfer cael mynediad i’n hysbytai: