Mae 'Dywedwch Wrthym Unwaith' yn wasanaeth sy'n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd. Pan fyddwch wedi cofrestru'r farwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi rhif cyfeirnod unigryw i chi i gael mynediad i'r gwasanaeth 'Dywedwch Wrthym Unwaith' ar-lein neu dros y ffôn.
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn gallu hysbysu sefydliadau fel:
Bydd CThEF a DWP yn cysylltu â chi ynglŷn â threth, budd-daliadau a hawliadau'r person a fu farw. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Beth i’w wneud ar ôl i rhywun farw: Dywedwch Wrthym Unwaith - GOV.UK (www.gov.uk)
I ddefnyddio'r gwasanaeth, bydd angen y wybodaeth ganlynol am eich anwyliaid arnoch:
Er gwybodaeth: Mae angen caniatâd gan y berthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr neu unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd â'r ymadawedig cyn i chi roi eu manylion.