Rydym yn deall y gall ystyried rhoi organau cyn ac ar ôl marwolaeth fod yn fater gofidus iawn i berthnasau feddwl amdano mor fuan ar ôl i anwyliaid farw. Bydd rhai anwyliaid wedi trafod eu dymuniadau o ran rhoi organau gyda’u perthnasau ond efallai na fydd rhai wedi gwneud hynny.
Os ydych chi'n ystyried rhoi organau neu feinweoedd, mae rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iawn am roi organau ar gael ar y dolenni canlynol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth yn benodol am roi meinwe, cysylltwch â Chanolfan Atgyfeirio Genedlaethol Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG:
Rhif ffôn 0800 432 0559.
Mae hwn yn wasanaeth 24 awr. Pan fyddwch yn ffonio, gadewch eich enw a'ch rhif ffôn llawn a bydd Nyrs Arbenigol Rhoi Meinweoedd yn dychwelyd eich galwad.
Fel arall, gallwch ofyn i feddyg, nyrs neu'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth sy'n ymwneud â gofal eich anwyliaid gysylltu â'r person priodol ar eich rhan.