Cyswllt

CONNECT yw’r Gwasanaeth Rheoli Pwysau Arbenigol Haen 3 ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (CYP) cyntaf yng Nghymru, sy’n cwmpasu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyd.

O fewn CONNECT , mae gennym ni seicolegydd clinigol sy’n rhan o’r tîm Seicoleg Pediatrig sy’n gweithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr proffesiynol i gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd i reoli pwysau a gwella eu hiechyd corfforol ac emosiynol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Connect a'n proses atgyfeirio ar ein tudalen we .

 

Pwy welwn ni?

Mae CONNECT yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd a chyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill fel meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol ac athrawon i ddarparu gwasanaeth unigol. Mae CONNECT yn cefnogi pobl ifanc 0 - 16 oed sydd â chanradd BMI o +3.33SD neu uwch.

Yn CONNECT , mae ein seicolegydd clinigol yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd a allai fod yn cael anawsterau gyda'u hemosiynau a'u hymddygiad o ran rheoli pwysau.

 

Beth mae seicoleg yn CONNECT yn ei gynnig?
  • therapïau seicolegol 1:1, teulu a grŵp ac ymyriadau gyda phobl ifanc ac aelodau eu teuluoedd i gefnogi pethau fel:
  • Rheoli meddyliau, teimladau ac ymddygiad anodd neu heriol sy'n gysylltiedig â bwyta, gweithgaredd corfforol a phwysau
  • Newid ein perthynas â bwyd, gweithgaredd corfforol a phwysau
  • Gwella cymhelliant i wneud newidiadau i'n hiechyd a'n lles
  • Gwella hunan-barch, delwedd y corff a hyder
  • Addysgu, hyfforddiant a chyfarfodydd i gefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n cefnogi teuluoedd i wneud newidiadau ar gyfer rheoli pwysau