Pan fydd gan bobl ifanc broblemau iechyd gall weithiau fod yn ofidus iddynt hwy ac i bawb yn y teulu. Gall anawsterau gyda'ch iechyd deimlo'n anodd a gall effeithio ar eich meddyliau, eich teimladau, eich ymddygiad a'ch lles. Mae ein gwasanaeth yn cynnig cyfle i bobl ifanc a’u teuluoedd siarad am y meysydd hyn, a lle bo’n briodol gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â phethau a all eu helpu i ymdopi â’u sefyllfa. Gall y ffordd y mae plant a theuluoedd unigol yn ymdopi â’r heriau y maent yn eu hwynebu, ac yn addasu iddynt, fod yn wahanol i bawb.
Daw rhieni, plant a phobl ifanc i weld y tîm am bob math o resymau.
Gall rhai o’r rhain gynnwys:
- Delio â thrallod emosiynol
- Teimlo'n nerfus neu'n bryderus am weithdrefnau
- Poeni am fod yn yr ysbyty
- Poeni am salwch neu gael triniaeth
- Pryderon am orfod cael pigiadau, nodwyddau, sganiau ac ati.
- Bod yn bryderus am golli ysgol neu deimlo'n 'wahanol'
- Bwlio yn yr ysgol
- Hyder/hunan-barch isel
- Poeni am eich pwysau
Sut gallwn ni helpu:
- Paratoi ar gyfer llawdriniaethau yn yr ysbyty a gweithdrefnau meddygol eraill
- Eich helpu i ofalu am eich lles
- Addasu i gyflwr neu ddiagnosis
- Derbyn byw gyda phroblem iechyd corfforol
- Rheoli ac ymdopi â chyflwr iechyd
- Meddwl am siarad ag eraill am eich cyflwr iechyd (gall fod yn anodd gwybod beth i’w ddweud!)
- Dod o hyd i gymhelliant i wneud newidiadau
- Gosod nodau cyraeddadwy