Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth y Bledren a'r Coluddyn Plant

Mae’r gwasanaeth y Bledren a’r Coluddyn Plant dan arweiniad Nyrsys yn darparu triniaeth, cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc 0-18 oed, gan arbenigo mewn triniaeth ar gyfer:

  • Gwlychu yn ystod y nos
  • Gwlychu yn ystod y dydd
  • Rhwymedd
  • Baeddu
  • Problemau y Bledren/coluddyn cymhleth


Cwrdd â'r Tîm

Rydym yn dîm bach o nyrsys arbenigol, sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr cymunedol ac acíwt eraill, teuluoedd a chyfleusterau addysgol a seibiant, i sicrhau trosolwg cyfannol o iechyd a lles Plant a Phobl Ifanc.

Rydym yn cynnig cyfuniad o ymweliadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ac ymweliadau cartref/ysgol, yn seiliedig ar anghenion y plentyn a’r teulu. Rydym yn gweithio i hyrwyddo ymataliaeth pob plentyn a pherson ifanc. Mae'r gwasanaeth yn darparu hyfforddiant, addysg a chefnogaeth arbenigol i staff gofal sylfaenol a gofal cymunedol.