Neidio i'r prif gynnwy

Pryd a sut y gallech gael eich atgyfeirio

Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio ar sail mynediad agored ac mae'n derbyn hunan-atgyfeiriadau gan gleifion a'u teuluoedd (gyda chaniatâd y claf) yn ogystal â chan ddarparwyr gofal eilaidd a phractisau meddygon teulu (gan nyrsys ardal/practis neu feddygon).

Gallwch chi, eich teulu neu ofalwr hunan-atgyfeirio trwy ein ffonio a chwblhau ffurflen.


Y Bledren

Sylwch: rhaid llenwi'r ffurflen Dyddiadur 3 Diwrnod ar y Bledren a'r holiadur cyn i atgyfeiriad gael ei gytuno.


Siart Coluddyn

Sylwch: rhaid cwblhau'r Siart y Coluddyn cyn i atgyfeiriad gael ei gytuno.

Apwyntiadau

Newid neu ganslo eich apwyntiadau - Rhif Ffôn: 01633 744286 neu E-bost: abb.bladderandboweladmin@wales.nhs.uk

Cyn eich apwyntiad
Bydd gofyn i chi gwblhau a dychwelyd holiadur claf ynghyd â dyddiadur pledren neu goluddyn. Ar ôl derbyn yr holiadur byddwch yn cael cynnig apwyntiad.

Dewch â:

  • eich llythyr apwyntiad
  • rhestr o feddyginiaethau rydych yn eu cymryd
  • Siart mewnbwn/allbwn diweddar (os nad ydych wedi’u dychwelyd eisoes)


Yn ystod eich apwyntiad
Gall eich apwyntiad fod:

  • wyneb yn wyneb
  • dros y ffôn
  • Ymweliad cartref gan nyrs arbenigol

 
Eich apwyntiad wyneb yn wyneb
Cyrhaeddwch 15 munud cyn eich apwyntiad.
Byddwch yn gweld nyrs arbenigol yn eich apwyntiad wyneb yn wyneb.


Eich apwyntiad ffôn
Os oes gennych apwyntiad ffôn, bydd y nyrs arbenigol yn ceisio eich ffonio ar amser yr apwyntiad. Sylwch mai bras amcan o’r amser yw hwn, efallai y byddant yn ffonio hyd at 30 munud cyn neu ar ôl. Sicrhewch fod eich ffôn ger llaw yn ystod yr amser hwn.


Ar ôl eich apwyntiad
Bydd ein tîm gweinyddol yn trefnu unrhyw apwyntiadau dilynol sydd eu hangen arnoch.
Byddwn yn ysgrifennu atoch chi a'ch meddyg teulu (neu'r meddyg a'ch cyfeiriodd) gyda manylion yr hyn
â drafodwyd gennym yn eich apwyntiad a manylion y cynllun y dylid ei ddilyn cyn yr apwyntiad nesaf.


Ymweliad Cartref
Ar gyfer cleifion sy’n gaeth i’r tŷ, efallai y byddai’n fwy priodol ymweld â’r cartref, bydd y nyrs yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad addas.