Neidio i'r prif gynnwy

Menopos

Arwydd cyntaf y menopos fel arfer yw newid ym mhatrwm arferol eich misglwyf.

Efallai y byddwch yn dechrau cael misglwyf anarferol ysgafn neu drwm. Gall amlder eich misglwyf gael ei effeithio hefyd. Efallai y byddwch yn eu cael bob 2 neu 3 wythnos, neu efallai na fyddwch yn eu cael am fisoedd ar y tro. Yn y pen draw, byddwch yn rhoi'r gorau i gael misglwyf yn gyfan gwbl.