Mae gennym nifer o rolau a chyfleoedd gwirfoddoli Ffrind i Mi o fewn y Tîm Profiad a Chyfranogiad Cleifion, ac isod fe welwch ddisgrifiad byr am bob un o’r rolau gwirfoddoli.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael ar draws ardaloedd daearyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Y rhain yw Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o'r rolau gwirfoddoli isod, cysylltwch â ni neu cwblhewch ac anfonwch y ffurflen gais .
Gallwch hefyd ofyn i'r gwaith papur recriwtio gwirfoddoli llawn gael ei anfon atoch naill ai drwy eich e-bost personol neu drwy'r post ynghyd ag Amlen Hunangyfeiriad (sylwer: byddai angen eich cyfeiriad post llawn arnom).