Dewisiadau Ffordd o Fyw i Gefnogi Eich Iechyd
- Ymarfer corff rheolaidd (gweithgareddau cryfder, aerobig a chydbwysedd)
- Deiet iach sy'n llawn calsiwm, fitamin D a bwydydd cyflawn
- Lleihau alcohol a chaffein
- Rhoi'r gorau i ysmygu.
- Cadw at drefn gysgu iach
- Technegau rheoli straen megis ymarferion anadlu, ioga neu ymwybyddiaeth ofalgar
Siarad â'ch Meddyg Teulu
Gall eich meddyg teulu helpu trwy:
- Asesu symptomau
- Gwneud profion gwaed os oes angen
- Trafod opsiynau triniaeth gan gynnwys HRT a thriniaethau nad ydynt yn hormonaidd
- Monitro cynnydd a sgil effeithiau
Atgyfeiriadau
Gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at:
- Glinigau menopos arbenigol
- Gwasanaethau gynaecoleg
- Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis
- Gwasanaethau seicoleg neu lesiant
Am ragor o gymorth a gwybodaeth, ewch i'n tudalen Adnoddau.