Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Orthoptig

Mae orthoptyddion yn aelodau arbenigol o'r tîm gofal llygaid. Rydym yn cael ein hadnabod fel Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Mae Orthoptydd yn gweithio'n annibynnol; nid oes angen i lawer o’n cleifion weld meddyg, a chânt eu rheoli gan y tîm orthoptig yn unig. Wedi dweud hyn, rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â staff meddygol eraill i ddarparu ystod eang o ofal. Ein rôl yn bennaf yw gwneud diagnosis a thrin problemau camaliniad llygaid a elwir yn llygad croes neu strabismus. Rydym wedi ein hyfforddi i asesu golwg binocwlar a phroblemau datblygiad gweledol felly rydym yn neilltuo llawer o amser i brofi plant er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniad gweledol gorau. Mae orthoptyddion yn gweithio'n bennaf mewn adrannau cleifion allanol ysbytai. Rydym hefyd yn arwain sgrinio golwg ar gyfer plant 4-5 oed.

Yn ogystal â thrin plant, mae orthoptyddion yn rheoli problemau gweledol mewn oedolion gan gynnwys golwg dwbl (diplopia), golwg aneglur, symudiadau llygaid annormal neu gael problem yn cyflawni tasgau gweledol arferol, efallai y bydd angen cyfeirio atom. Gall y mathau hyn o broblemau godi o gyflyrau meddygol sylfaenol fel diabetes a gorbwysedd, cyflyrau niwrolegol, problem endocrin, strôc neu drawma i'r llygad.


Ewch i'r gwefannau canlynol am ragor o wybodaeth: