Neidio i'r prif gynnwy

Nodau ac Amcanion

Mae'r Adran Orthoptig yn darparu staff proffesiynol, gofalgar sydd â'r nod o roi triniaeth o ansawdd uchel i'n cleifion. Bydd pob aelod o staff yn parchu hawl yr unigolyn i gwrteisi, urddas a phreifatrwydd yn ystod eu hapwyntiad clinig. Mae ein triniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn dilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Orthoptig Prydain ac Iwerddon.


Ein nod yw darparu gwasanaeth Orthoptig effeithlon ac effeithiol. Bydd yr holl gleifion a gyfeirir at yr adran yn cael eu trin fel unigolion a byddant yn ymwneud â'u triniaeth lle bynnag y bo modd, ar y cyd â staff meddygol a pherthnasau.