Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n Dda

Mae Bwyta'n Iach yn rhywbeth y gallwn ni i gyd geisio ei wneud bob dydd i'n cadw ni'n iach a theimlo'n dda .

Bwyta diet iach a chytbwys:

  • Gall leihau eich risg a'ch amddiffyn rhag clefyd y galon, diabetes math 2 a rhai canserau,
  • Yn cadw eich croen, dannedd a llygaid yn iach,
  • Yn rhoi hwb i'ch imiwnedd,
  • Yn cryfhau'ch esgyrn, yn lleihau'r risg o gwympo
  • Yn helpu eich system dreulio i weithio,
  • Eich helpu i gyflawni a chynnal pwysau iach,
  • Gwella'ch hwyliau a lleihau lefelau straen,
  • A'ch helpu chi i fyw'n hirach.

Gall bwyta'n iach ymddangos yn heriol, yn enwedig os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, ond gall cymryd camau bach fel rhoi cynnig ar fwyd a ryseitiau newydd ei wneud yn brofiad symlach a mwy pleserus i chi. Ar y dudalen hon gallwch archwilio sut beth yw bwyta'n iach i chi, gydag awgrymiadau a thriciau i'ch helpu.