Brechu yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain, a'n gilydd yn erbyn afiechyd, a'n cadw i fyw'n dda ac yn iach.
Drwy gael eich brechu, rydych nid yn unig yn diogelu eich hun ond hefyd yn cyfrannu at ddiogelu eich cymuned ehangach, yn enwedig y rhai sy'n fwy agored i glefydau a allai fod yn ddifrifol. Mae brechiadau yn ffordd syml, ddiogel ac effeithiol o sicrhau eich bod chi a'ch teulu yn cadw'n iach, ac i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'ch plant.
Cael gwybod os ydych yn gymwys
Mae brechlynnau'n cael eu cynnig i grwpiau amrywiol yn seiliedig ar ffactorau fel oedran, cyflyrau iechyd, a risg o ddod i gysylltiad â nhw. Mae'n bwysig gwirio a ydych yn gymwys i gael brechlyn penodol i sicrhau eich bod yn cael eich amddiffyn. I gael gwybod mwy am eich cymhwysedd i gael brechiadau, dewiswch y dudalen berthnasol isod.
Trefnu eich brechlyn
Os ydych yn gymwys ac yn barod i gael eich brechu, byddwch fel arfer yn derbyn apwyntiad gan eich meddygfa, fferyllfa neu drwy ein gwasanaeth brechu.
Mae ein tîm archebu yma i helpu. Os hoffech gysylltu â'n nhîm archebu brechiadau, gallwch wneud hynny drwy ffonio 0300 303 1373 rhwng 9yb a 5yp, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener neu drwy e-bostio: abb.vsbc@wales.nhs.uk
Defnyddiwch y tudalennau hyn i ddysgu mwy am imiwneiddio, amserlenni brechlynnau, a sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am frechiadau ar gyfer pob grŵp oedran. Amddiffynnwch eich hun a'ch anwyliaid heddiw.