Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau Ffliw

Gall fferyllfeydd cymunedol ddarparu brechiadau ffliw GIG am ddim i gleifion sy'n 18 oed a hŷn sydd mewn grŵp cymwys:

  • rydych chi'n 65 oed neu'n hŷn (gan gynnwys os byddwch chi'n 65 oed erbyn 31 Mawrth 2026)
  • mae gennych gyflyrau iechyd hirdymor penodol
  • rydych chi'n feichiog
  • rydych chi'n weithiwr rheng flaen mewn lleoliad gofal cymdeithasol na all gael brechiad gan eich cyflogwr

Bydd y fferyllfa’n dweud wrthych chi sut a phryd y gallwch chi archebu eich brechiad.

Plant dan 18 oed

Ni all plant dan 18 oed gael brechiad ffliw mewn fferyllfa. Ond efallai y byddan nhw'n gallu ei gael o'u hysgol neu feddygfa.

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn Cartrefi Gofal neu leoliadau Gofal Cartref

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu leoliadau gofal yn y cartref yn gallu cael brechlyn ffliw'r GIG o'u fferyllfa leol. Nid oes angen i chi gyflwyno'ch dogfen adnabod mewn fferyllfa. Fodd bynnag, os gall eich cyflogwr roi llythyr i chi sy'n cadarnhau eich bod yn weithiwr gofal cymdeithasol, gallai hynny wneud pethau'n haws ar y diwrnod.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r brechlynnau ffliw, ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch 'brechlynnau ffliw' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.

Noder, os nad ydych chi'n gymwys i gael brechiad ffliw am ddim, efallai y byddwch chi'n gallu talu amdano mewn rhai fferyllfeydd.