Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Atal Cenhedlu

Mae atal cenhedlu brys (y bilsen bore wedyn) ar gael am ddim i bobl sydd â photensial i gael plant sydd yn 13 oed neu'n hŷn ac sydd wedi cael cyfathrach rywiol heb amddiffyniad yn ystod y 5 diwrnod diwethaf.

Gall y gwasanaeth hefyd ddarparu cyflenwad 3 mis o feddyginiaeth atal cenhedlu rheolaidd i'r rhai sydd ei angen. Mae'r gwasanaeth fferyllol yn cynnig mynediad cyfleus i gleifion gan nad oes angen apwyntiad.

Mae’n rhaid i'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan fferyllydd achrededig ac mae'n cynnwys asesiad cyfrinachol er mwyn dod o hyd i’r math mwyaf priodol o ddull atal cenhedlu brys. Argymhellir eich bod yn cysylltu gyda'r fferyllfa cyn mynychu er mwyn gwneud yn siŵr bod y fferyllydd ar gael. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer y rheiny sydd yn 13 oed a hŷn sydd angen dulliau atal cenhedlu brys.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i https://111.wales.nhs.uk/, cliciwch y ddolen 'Gwasanaethau yn agos atoch chi', dewiswch 'Fferyllfa', nodwch eich cod post a dewiswch 'yn darparu dulliau atal cenhedlu brys' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.