Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau (DMR)

Mae’r Gwasanaeth Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau (DMR) yn wasanaeth y GIG sydd am ddim a gynigir ym mhob fferyllfa gymunedol ar gyfer pobl sydd newydd gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Mae'n fodd o sicrhau bod eich meddyginiaethau'n ddiogel, yn gywir ac yn gweithio'n dda i chi unwaith y byddwch yn ôl gartref. Pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r ysbyty, efallai y byddwch yn cael amlen frown gyda gwybodaeth am eich meddyginiaethau ynddi. Gall gwybodaeth am feddyginiaethau fod yn llawer i'w chymryd i mewn tra byddwch yn wael yn yr ysbyty, felly mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i chi fynd trwy bopeth unwaith eto, wyneb yn wyneb, gyda fferyllydd pan fyddwch yn teimlo'n barod. At hyn, gall arhosiad yn yr ysbyty olygu bod eich meddyginiaethau wedi newid. Nod y gwasanaeth DMR yw sicrhau bod eich meddyginiaethau'n gywir ac yn gyfredol, lleihau'r risg o gamgymeriadau neu sgil effeithiau a'ch helpu i ddeall eich meddyginiaethau'n well.

Bydd eich fferyllydd cymunedol yn:

  • Gwirio eich meddyginiaethau yn erbyn eich gwybodaeth rhyddhau
  • Sicrhau bod gennych chi'r holl feddyginiaethau sydd eu hangen arnoch a sicrhau bod unrhyw hen rai wedi'u stopio
  • Esbonio beth yw diben pob meddyginiaeth a sut i'w chymryd
  • Siarad â'ch meddyg teulu os oes angen datrys unrhyw broblem neu newidiadau
  • Ateb cwestiynau neu bryderon, gan eich helpu i osgoi teithiau ychwanegol at eich meddyg teulu neu i’r ysbyty

Byddant hefyd yn gwirio a ydych yn dal i ddefnyddio'ch holl feddyginiaethau. Mae hyn yn helpu i atal gwastraff, presgripsiynau amlroddadwy diangen a chasglu gormod o stoc gartref.

Byddwch yn cael cynnig adolygiad dilynol i weld sut mae pethau’n mynd.

Dylai'r gwasanaeth gael ei ddefnyddio o fewn pedair wythnos ar ôl gadael yr ysbyty.