Bydd dal eich babi yn erbyn eich croen yn syth ar ôl ei eni yn tawelu eich babi. Bydd hefyd yn tawelu ei anadl ac yn helpu i'w gadw'n gynnes. Mae hwn yn amser gwych i ddechrau eich bwydo ar y fron cyntaf oherwydd bydd eich babi yn effro a bydd eisiau bwydo yn yr awr gyntaf ar ôl y geni. Gall eich bydwraig eich helpu gyda hyn. Bydd eich babi yn hapusach os byddwch chi'n ei gadw'n agos atoch chi ac yn ei fwydo pan fydd eisiau bwyd arno. Bydd hyn yn atgoffa eich corff i gynhyrchu digon o laeth. Mae'n iawn bwydo'ch babi pan fydd angen ei gysuro, pan fydd eich bronnau'n teimlo'n llawn neu pan fyddwch chi eisiau eistedd i lawr a chael gorffwys. Nid yw'n bosibl gor-fwydo babi sy'n cael ei fwydo ar y fron.