Mae eich adborth yn bwysig i ni; trwy rannu eich profiadau am ein gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gallwn ddysgu. Byddwn yn ei ddefnyddio i ddathlu'r hyn rydym yn ei wneud yn dda, rhannu dysgu, ailadrodd mentrau llwyddiannus lle bo'n briodol ac i wneud gwelliannau lle credwch y gallem wneud yn well.
	Profiadau - cwblhewch yr arolwg byr hwn. Bydd y ffurflen hon yn cofnodi eich profiad o'n gwasanaethau. Mae'r ymatebion a gyflwynir yn ddienw ac ni fyddant yn gofyn am wybodaeth adnabyddadwy i unrhyw berson.
	
	Canmoliaeth - os hoffech chi rannu canmoliaeth am ein gwasanaethau/timau MHLD, gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at ein Tîm Ymgysylltu : ABB.MHLDEngagement@wales.nhs.uk
	
	Os oes gennych gŵyn (pryder) , rydym yn gobeithio y gellir delio â hynny ar unwaith, trwy siarad â'r staff dan sylw neu eu Rheolwr. Fodd bynnag, gallwch hefyd godi unrhyw bryderon drwy gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan drwy:
	
	Ffôn: 01495 745656
	
	neu E-bost: Puttingthingsright.ABHB@wales.nhs.uk
	
	neu Ysgrifennwch lythyr at:
	Prif Weithredwr
	Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
	Ysbyty Sant Cadog
	Lodge Road
	Caerlleon
	Casnewydd
	NP18 3XQ