PEP (Proffylacsis Ôl-Amlygiad ar gyfer HIV)

Gall ein gwasanaeth ddarparu PEP ond mae angen ei gychwyn cyn pen 3 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad. Cysylltwch â'n rhif ffôn swyddfa (01495 765065) a bydd y tîm yn trefnu apwyntiad brys i chi.

Bydd meddyg neu nyrs yn eich gweld ac yn gofyn cwestiynau arferol am eich iechyd, bydd angen i chi gael profion gwaed a byddwch yn cael cynnig profion swab ar gyfer haint rhywiol a brechiadau ar gyfer Hepatitis B.