Gall ein gwasanaeth gynnig profion a thriniaeth i chi ar gyfer mwyafrif yr heintiau rhywiol gan gynnwys Chlamydia, Gonorrhea, Herpes, Syffilis, HIV a Hepatitis. Os oes gennych symptomau, cysylltwch â ni trwy ffonio
Dydd Llun / Dydd Mercher rhwng 9:00 yb - 5:45 yp
Dydd Mawrth / Dydd Iau / Dydd Gwener rhwng 9:00 yb - 4:00 yp
I drefnu trafodaeth ffôn am eich anghenion iechyd. Yna bydd apwyntiad clinig yn cael ei wneud i chi gael eich gweld gan staff clinigol neu gasglu meddyginiaeth os yw'n briodol.
Am ragor o wybodaeth am heintiau rhywiol gweler y dolenni isod .
Os nad oes gennych symptomau ond y byddai'n rhaid i chi wirio am haint (yr ydym yn ei argymell ar ôl pob partner newydd) gallwch fynd i Frisky Wales a byddant yn anfon pecyn profi atoch.
Gadewch y dudalen hon yn gyflym