Mae Meddygon Teulu’n awr yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol mewn meddygfeydd a chanolfannau iechyd lleol.
Nid oes angen i chi weld eich meddyg teulu bob tro ac efallai bydd eich meddygfa'n argymell eich bod chi'n gweld gweithiwr iechyd proffesiynol arall sy'n rhan o dîm y feddygfa. Mae staff y dderbynfa’n Gyfeirwyr Cymorth wedi eu hyfforddi, a bydd rhoi gwybodaeth iddynt yn eu galluogi i sicrhau eich bod yn cael eich gweld gan y gofalwr iechyd proffesiynol mwyaf priodol sydd fwyaf cymwys i ddelio â'ch anghenion mewn modd amserol.
Mae Brian Harries, Ymarferydd Cyffredinol ac Arweinydd Gogledd Sir Fynwy, yn siarad am y manteision o gael gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol yn gweithio mewn Practis.