O Ddydd Llun 6 Mai 2024 (oriau mân Dydd Mawrth 7 Mai), bydd rhai newidiadau i oriau agor ein Hunedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr.
Yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd i ofyn am adborth ar ddarpariaeth ein gwasanaethau Mân Anafiadau, ein nod oedd sicrhau'r darpariad mwyaf posibl i wasanaethau lleol a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol.
O ganlyniad i'r ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r Bwrdd Iechyd bellach wedi cyflwyno'r amseroedd agor diwygiedig canlynol ar gyfer ein Hunedau Mân Anafiadau:
Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni |
Ar agor 18 awr bob dydd rhwng 7.00yb a 1.00yb, saith diwrnod yr wythnos
|
Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach
|
Ar agor 18 awr bob dydd, rhwng 7.00yb a 1.00yb, saith diwrnod yr wythnos
|
Ysbyty Aneurin Bevan, Glyn Ebwy |
Ar agor am 10 awr, rhwng 9.00yb a 7.00yp, Dydd Llun i Ddydd Gwener [ac eithrio gwyliau banc] (Heb newid)
|
Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd |
Ar agor 24 awr, saith diwrnod yr wythnos (Heb newid)
|
Y tu allan i oriau agor yr Unedau Mân Anafiadau yn Y Fenni, Ystrad Mynach a Glyn Ebwy, mae gwasanaeth Mân Anafiadau 24 awr yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Yn ogystal, gellir cysylltu â'r gwasanaeth 111 Cymru 24 awr y dydd ar gyfer ymholiadau a chyngor am fân anafiadau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithredu nifer o Unedau Mân Anafiadau, sy'n trin anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd nag aelodau. Maent yn cael eu harwain a'u darparu gan Ymarferwyr Nyrsio Brys hyfforddedig arbenigol, sy'n gallu gweithio'n annibynnol a thrin amrywiaeth o anafiadau mewn oedolion a phlant dros flwydd oed.
Mae'r Unedau Mân Anafiadau yn rhan bwysig o wasanaeth Gofal Brys cyffredinol y Bwrdd Iechyd, gyda'n hysbytai wedi'u ffurfweddu fel bod:
Mae'r defnydd o'n Unedau Mân Anafiadau yn amrywio'n fawr yn ystod eu horiau agor - er enghraifft, ychydig iawn o weithgaredd sydd yn y nos, a dyna pam yr aethom ati yn ddiweddar i gynnal ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cynhwysfawr i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithlon i ateb y galw. Cawsom adborth gwerthfawr gan bobl, a hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd ac a fynegodd eu barn.
Rydym yn cydnabod y pryderon a fynegwyd gan lawer o bobl ac rydym wedi cymryd amser i wrando, deall a rhoi mesurau ychwanegol ar waith o ganlyniad, megis sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rhwydd am ein holl wasanaethau Gofal Brys a sut i gael y budd mwyaf o'r rhain.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am waith ein Hunedau Mân Anafiadau, cysylltwch â ni yn ABB.Enquiries@wales.nhs.uk