Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 2: Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario

Mae dosbarth dau yn cynnwys gwybodaeth am:
Datganiad blynyddol o gyfrifon, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant
Adroddiadau archwilio ariannol
Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog
Rhaglen gyfalaf
Lwfansau a threuliau staff ac aelodau'r Bwrdd
Strwythurau tâl a graddio staff
Cyllid
Caffael a thendro
Rhestr a gwerth y contractau a ddyfarnwyd
Datganiad Ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant
 
Mae cyfrifon blynyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn flynyddol. Mae hyn yn digwydd ar ddechrau mis Mehefin bob blwyddyn. Gellir gweld y cyfrifon blynyddol llawn yn Nogfennau Allweddol ein gwefan.
 
Cyflwynir adroddiadau Perfformiad Ariannol manwl sy'n darparu manylion yr arian a dderbyniwyd a'r gwariant a wnaed gan y Bwrdd Iechyd, ynghyd â chyllidebau ac amrywiannau i'r Bwrdd ym mhob cyfarfod. Gellir gweld adroddiadau ar berfformiad ariannol yn adran Dyddiadau a Phapurau Cyfarfodydd y Bwrdd ar ein gwefan.
 
Gellir ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyllidebau'r GIG ar y dudalen Cyllidebau a Thaliadau ar wefan Iechyd yng Nghymru.
Cyhoeddir manylion eitemau gwariant dros £30,000 (misol) yn fuan ond os bydd angen y wybodaeth hon arnoch yn y cyfamser, cyflwynwch gais trwy Richard Bevan , Ysgrifennydd y Bwrdd.