Y system fasgwlaidd yw’r rhwydwaith cydgysylltiedig o bibellau gwaed (gwythiennau a rhydwelïau) sy’n cysylltu â’r galon a’r ysgyfaint ac yn darparu ocsigen a maethynnau i holl organau a meinweoedd y corff. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn helpu i gynghori a thrin pobl pan fydd angen archwilio neu drin eu system fasgwlaidd, yn ogystal â darparu cyngor ar gynnal iechyd fasgwlaidd da.
Mae’r model gofal newydd hwn wedi’i roi ar waith gan Rwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru i sicrhau bod y broses o ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel yn cael ei chynnal ar gyfer y dyfodol.
Mae’r trawsnewid yn cynnwys partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Nod Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yw gwella canlyniadau cleifion, a darparu gwasanaethau fasgwlaidd cydlynol i boblogaeth ar draws ardal ddaearyddol eang sy’n cynnwys nifer o ysbytai gwahanol.
Ysbyty Prif Ganolfan
Mae’r brif ganolfan yn derbyn yr holl argyfyngau fasgwlaidd sy’n gofyn am ymyrraeth fasgwlaidd neu endofasgwlaidd, ynghyd â gofal brys yr holl gleifion mewnol fasgwlaidd. Mae ganddi welyau penodedig ar gyfer cleifion mewnol fasgwlaidd mewn ward sydd wedi’i staffio gan nyrsys sydd â diddordeb mewn llawdriniaeth fasgwlaidd.
Ysbyty Athrofaol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yw’r ysbyty prif ganolfan. Fe'i dewiswyd oherwydd yr amrywiaeth o wasanaethau acíwt sydd eisoes wedi'u sefydlu ar y safle fel darparwr arbenigol trawma mawr, cardioleg ymyriadol a llawdriniaeth gardio-thorasig. Oherwydd y cysylltiadau rhwng y gwasanaethau hyn a’r gwasanaeth fasgwlaidd, dyma’r opsiwn a ffafriwyd ar gyfer y brif ganolfan gan uwch feddygon o’r holl Fyrddau Iechyd dan sylw.
Ysbyty Lloeren
Wrth i gleifion ddechrau eu taith adfer ac adsefydlu, bydd eu gofal yn cael ei ddarparu mewn lleoliad ysbyty a chymunedol a fydd mor agos at eu cartref â phosibl.
O ystyried yr angen am Adran Damweiniau ac Achosion Brys dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaeth llawdriniaeth gyffredinol frys, mae’r ysbytai lloeren ar gyfer pob ardal Bwrdd Iechyd fel a ganlyn:
Sylwch fod cynlluniau yn eu lle i ysbyty lloeren Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddod yn Ysbyty Athrofaol Llandochau
Mae cael gwasanaethau llawfeddygol fasgwlaidd mewn prif ganolfan gydag ysbytai lloeren ategol yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion.
Credwn y bydd model rhwydwaith prif ganolfan a lloerennau ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd yn fwy gwydn a hyblyg ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i wneud y canlynol:
Siaradwch â'n tîm os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.