Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am yr holl wasanaethau iechyd a ddarperir trwy hen sir Gwent (yn cynnwys ardaloedd awdurdod lleol Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent), yn ogystal â rhywfaint o boblogaeth de Powys. Mae’r model gofal dan arweiniad bydwragedd o fewn y Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar gynorthwyo menywod, y rhai sy’n rhoi genedigaeth, a’u teuluoedd trwy ddarparu gofal caredig a thosturiol, gan ddefnyddio tystiolaeth o ansawdd i lywio penderfyniadau. Y bwriad yw sicrhau profiadau cadarnhaol mewn perthynas â beichiogrwydd a geni plant – profiadau a fydd yn hybu llesiant ac yn rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i fabanod.
Mae gan wasanaethau mamolaeth ddyletswydd gofal i sicrhau bod y ddarpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau dan arweiniad bydwragedd yn ddigonol, fel y gellir diwallu’r galw ym mhob ardal. Mae dewis yn hanfodol i ofal mamolaeth a dylai pob menyw allu gwneud dewisiadau ynglŷn â’r lleoliad y bwriadant roi genedigaeth.
Mae’r canlynol wedi’u cynhyrchu i ddarparu gwybodaeth am wasanaethau mamolaeth dan arweiniad bydwragedd yn y Bwrdd Iechyd, i roi gwybod am faterion diweddar a brofwyd gan y gwasanaeth ac i nodi cynigion ar gyfer sut y gellid darparu’r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Mae’n bwysig bod pawb sydd â diddordeb mewn gwasanaethau mamolaeth yn cael cyfle i ddeall y cynigion ac i roi eu barn i ni.
Er mwyn sicrhau bod cleifion yn gallu ystyried y cynnig hwn, mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda Llais (Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan gynt) ac mae cyfnod o 12 wythnos o ymgysylltu â'r cyhoedd wedi'i drefnu, rhwng Dydd Mawrth 9 Mai a Dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023.
Mae’r cyfnod ymgysylltu hwn bellach wedi gorffen.
Gellir rhannu barn trwy gyfrwng y dulliau canlynol:-
Cwblhewch ein harolwg y gellir rhannu barn trwy gyfrwng y dulliau canlynol:-
Cod URL: https://forms.office.com/e/RNT1QWwkjq
Efallai yr hoffech ei sganio hefyd, neu dynnu llun o ansawdd da a’i e-bostio atom yn: ABB_BABI@wales.nhs.uk
Gellir fynychu un o’n sesiynau ymgysylltu/ gwybodaeth cyhoeddus, lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynigion a gofyn cwestiynau i’r Bwrdd Iechyd / staff mamolaeth. Mae’r sesiynau hyn wedi’u trefnu fel a ganlyn:-
Dydd Llun 15fed Mai 16:00 – 18:00 |
Canolfan Geni Ysbyty Nevill Hall Y Fenni |
Dydd Mercher 17eg Mai 16:00 – 18:00 |
Canolfan Geni Ysbyty Brenhinol Gwent Casnewydd |
Dydd Gwener 19eg Mai 12:00 canol dydd – 14:00 |
Canolfan Geni Ysbyty Ystrad Fawr Ystrad Mynach |
Dydd Llun 22 Mai 14:00pm – 16:00 |
Canolfan Geni Ysbyty Brenhinol Gwent Casnewydd |
Dydd Mawrth 30ain Mai 14:00pm – 16:00 |
Canolfan Geni Ysbyty Aneurin Bevan Glyn Ebwy |
Dydd Gwener 9 Mehefin 10:00 – 12:00 canol dydd |
Canolfan Geni Ysbyty Nevill Hall Y Fenni |
Trwy e-bost gan nodi unrhyw sylwadau yn ABB_BABI@wales.nhs.uk
Dros y ffôn ar 01633 238874 (gadewch neges er mwyn i rywun allu cysylltu â chi)
Cyfrannu at unrhyw sgyrsiau ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng tudalen Gwasanaethau Mamolaeth y Bwrdd Iechyd ar Facebook