Mae cam ymgysylltu terfynol Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn digwydd ym mis Chwefror
Cynhelir trydydd cam ymgysylltu a therfynol Adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), am sut i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ymhellach, rhwng 01 a 29 Chwefror 2024.
Mae'r ymgysylltu’n rhoi cyfle i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ddweud eu dweud ar yr opsiynau ar y rhestr fer i wella gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru ymhellach.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS GIG Cymru.
Mae’r Elusen yn cyflenwi’r hofrenyddion, ceir, canolfannau awyr, peilotiaid, peirianwyr a thanwydd, tra bod y timau clinigol yn cynnwys meddygon a chlinigwyr o GIG Cymru.
Pwrpas yr adolygiad yw sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn elwa ar ganlyniadau clinigol rhagorol i gleifion clinigol drwy wneud y defnydd gorau o'r timau clinigol ledled Cymru.
Mae'r adolygiad hefyd yn edrych ar sut i sicrhau darpariaeth ddaearyddol deg ledled Cymru a defnydd effeithiol o Gerbydau Ymateb Cyflym (RRVs), yn enwedig pan nad yw'r hofrenyddion yn gallu hedfan.
Stephen Harrhy yw'r Prif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans sydd â'r dasg o arwain yr adolygiad annibynnol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys)- cyd-bwyllgor o bob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Mae'r Comisiynydd yn annog y cyhoedd a rhanddeiliaid i wneud sylwadau ar opsiynau drwy gydol mis Chwefror cyn i’r Pwyllgor wneud penderfyniad ym mis Mawrth.
Dywedodd Mr Harrhy "Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar wella - yr hyn sydd eisoes - gwasanaeth gwych sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.
"Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto ar y mater hwn ac mae'r cam olaf hwn yn rhoi cyfle i mi rannu'r hyn a glywyd yn ymgysylltiad Cam 2 a dangos sut y cyrhaeddwyd yr opsiynau ar y rhestr fer.
"Wrth i ni fynd drwy'r broses ymgysylltu, mae wedi caniatáu i mi gasglu mwy o adborth ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl, i gynnwys mwy o opsiynau, ac i ystyried atebion posibl.
"Fel rhan o'r broses hon ac i'm helpu, cynhaliwyd gweithdy gwerthuso opsiynau gydag amrywiaeth o gydweithwyr proffesiynol o'r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru.
"Arweiniodd y gwerthusiad at ddau opsiwn â’r sgôr uchaf y cyfeirir atynt nawr fel Opsiwn A ac Opsiwn B.
"Mae'r opsiynau'n cynnig newid gweithrediadau o Gaernarfon a'r Trallwng a chael canolfan unedig yng Ngogledd Cymru rhywle ger yr A55 er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth helpu mwy o gleifion a gwneud defnydd mwy effeithiol o'r criwiau clinigol.
"Er y gallai'r ddau opsiwn wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr, nid ydynt yn atebion perffaith ac nid ydynt yn mynd i'r afael â'r holl bryderon a glywir yn adborth y cyhoedd a dyna pam rwyf wedi dangos rhai camau gweithredu ychwanegol fel atebion posibl yn fy adroddiad ar gyfer yr ymgysylltu.
"Rwy'n gwahodd dinasyddion i wneud sylwadau ar y broses a ddilynir wrth gyrraedd yr opsiynau hyn, yr opsiynau eu hunain, a'r camau ychwanegol yr wyf wedi'u nodi fel atebion posibl."
Roedd cam cyntaf ymgysylltiad cyhoeddus Cymru gyfan, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, yn canolbwyntio ar wrando ar sylwadau, ymholiadau ac adborth ar sut i ddatblygu opsiynau i wella'r gwasanaeth ambiwlans awyr ymhellach.
Cynhaliwyd yr ail gam ymgysylltu rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023 a gofynnodd am adborth ar yr opsiynau a ddatblygwyd o adborth Cam 1.
Dywedodd Mr Harrhy "Bydd y cam ymgysylltu terfynol hwn ar yr opsiynau ar y rhestr fer yn fy helpu i gyrraedd opsiwn a ffefrir y byddaf wedyn yn gallu ei argymell yn ffurfiol i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ar gyfer eu penderfyniad ym mis Mawrth 2024."
Fel yn y cyfnodau ymgysylltu cynharach, gall pobl roi eu hadborth mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys ar-lein, trwy e-bost, post neu dros y ffôn. Gall unrhyw un sydd angen gwahanol ieithoedd a fformatau gysylltu â'r tîm EASC a fydd yn helpu.
Mae Adroddiad y Comisiynydd, yr holl ddogfennau ymgysylltu, a manylion am sut i roi adborth ar wefan EASC.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda chymunedau lleol am sut y gall pobl ddweud eu dweud Ymgysylltu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru).
Gall dinasyddion hefyd gysylltu â'u cynrychiolydd Llais lleol i roi gwybod iddynt am eu barn.
Llais yw'r corff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae mwy o wybodaeth am Llais ar eu gwefan gan gynnwys manylion cynrychiolydd rhanbarthol Llais ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: https://www.llaiswales.org/in-your-area