Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth Cartref a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cefnogaeth yn ystod y pandemig COVID-19. Fel rheol bydd angen atgyfeiriad arnoch gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Efallai bod y ffordd y mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wedi newid yn ystod y pandemig er mwyn lleihau trosglwyddiad y firws a'ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.
Os ydych eisoes yn derbyn gofal gan wasanaethau iechyd meddwl eich Bwrdd Iechyd, gallwch ddisgwyl i gyswllt â'ch cydlynydd gofal neu weithiwr proffesiynol arall yn y tîm sy'n gofalu amdanoch gael eich cynnal.
Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhoddir dewis ichi o'r math o gyswllt gan gynnwys ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, ffôn neu fideo, pan fyddant ar gael. Dylai eich Cynlluniau Gofal a Thriniaeth fod yn gyfoes, gyda'r holl fanylion cymorth perthnasol ynghyd â'ch cynlluniau argyfwng wedi'u personoli.
Mae ein wardiau cleifion mewnol acíwt yn gweithredu fel arfer. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau a newidiadau i weithrediadau arferol wedi'u cyflwyno a gall y rhain amrywio yn dibynnu ar yr ardal. Gellir gweld manylion y newidiadau hyn yn y dolenni isod.
Mae cyflwyno therapïau a seibiwyd yn ystod cam cychwynnol y pandemig wedi ail-ddechrau, trwy dechnoleg fideo, ac wyneb yn wyneb lle bo hynny'n glinigol briodol.
Mae'r gefnogaeth y mae teulu a ffrindiau yn ei darparu i rywun â chyflwr iechyd meddwl mor bwysig a hyd yn oed yn fwy felly yn ystod y pandemig COVID. Gall cefnogi rhywun sydd â chyflwr iechyd meddwl fod yn anodd i deulu a ffrindiau, ond mae'n bwysig cofio bod help a chefnogaeth ar gael i chi. Bydd gofalu am eich lles eich hun yn golygu eich bod wedi paratoi'n well i gefnogi rhywun arall gyda'i adferiad. Mae'n bwysig eich bod yn gallu cyrchu'r wybodaeth a'r gefnogaeth fwyaf diweddar a allai eich helpu i barhau â'ch rôl gofalu / cefnogi ar yr adeg hon.
Gall sefydliadau gofalwyr ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth berthnasol. Gallant:
Mae'n bwysig eich bod chi'n cofio eich bod chi'n gwneud eich gorau ar yr amser anodd hwn, felly byddwch yn garedig â chi'ch hun.