Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthuso Prosiect

Er mwyn gwerthuso prosiect mentoriaid cymheiriaid 2020 Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cydgynhyrchwyd strategaeth werthuso a chyflwynir y canfyddiadau isod:

Dulliau Mesur Clinigol

Er mwyn mesur adferiad goddrychol a llesiant, defnyddiwyd y Dull Mesur Adferiad ac Ansawdd Bywyd (ReQoL) a Graddfa Llesiant Meddwl Warwick-Caeredin (WEMWBS). Ar sail y data a gasglwyd, mae’r sgoriau’n dangos gwelliant dibynadwy; soniodd defnyddwyr y gwasanaeth am gynnydd o 43% mewn teimladau adferiad goddrychol ynghyd â chynnydd o 32% mewn teimladau llesiant; a soniodd y Mentoriaid Cymheiriaid am gynnydd o 33% mewn teimladau adferiad goddrychol ynghyd â chynnydd o 22% mewn teimladau llesiant.

O ran llesiant, mae’r newidiadau hyn yn glinigol arwyddocaol. Gwelir bod sgoriau cymedrig y Mentoriaid Cymheiriaid wedi codi i fod ymhlith 15% uchaf y boblogaeth gyffredinol ac mae sgoriau cymedrig Defnyddwyr y Gwasanaeth wedi codi uwchlaw’r torbwynt ar gyfer 15% isaf y boblogaeth gyffredinol. Nid yw arwyddocâd ystadegol y newidiadau hyn wedi’i bennu eto.

 

 

Ffigur 2: Sgoriau cymedrig ar gyfer Defnyddwyr y Gwasanaeth a Mentoriaid Cymheiriaid.

Data Ansoddol

Casglwyd data ansoddol trwy gyfrwng cyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff, mentoriaid cymheiriaid a defnyddwyr y gwasanaeth. Cawsant eu trawsgrifio a’u dadansoddi trwy ddefnyddio dadansoddiad thematig:

  • Mae defnyddwyr y gwasanaeth yn mawrbrisio profiad a gwybodaeth y cymheiriaid a soniwyd am effaith drawsnewidiol y profiad.
  • Mae mentoriaid cymheiriaid wedi elwa ar y prosiect. Mae’r prosiect wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddynt ac wedi gwella’u hyder.
  • Mae’r staff yn mawrbrisio’r rôl hefyd. Maent o’r farn fod cymheiriaid yn cynnig safbwyntiau gwahanol i safbwyntiau’r tîm.

‘Dw i ddim yn meddwl y buaswn i yma heb yr ymyriad. Rydw i’n ddyledus am fy mywyd iddyn nhw’ Un o ddefnyddwyr y gwasanaeth

‘Mae wedi trawsnewid fy mywyd, oherwydd ers imi gael fy niagnosis dw i wedi dod o hyd i swydd sydd wrth fy modd, mae gen i well dealltwriaeth o bethau, dw i’n teimlo’n fwy hyderus ynof fy hun, bod yna bethau y galla’ i eu gwneud i ’ngwella fy hun. Dw i’n teimlo bod gen i bwrpas nawr…’

Mentor Cymheiriaid

 

‘…mae’n dangos y cryfderau a’r sgiliau sydd gan gynifer o bobl… Yn amlwg, mae gan bobl heriau unigryw hefyd, a dw i’n credu bod cael mentor cymheiriaid yn y tîm yn ffordd o ddangos hyn, bod yna rywun yma sy’n cael anawsterau mawr gyda rhai pethau… ond, o ddifrif, edrychwch ar y cryfderau a’r sgiliau sydd gennych chi (cryfderau a sgiliau nad ydyn nhw’n perthyn i neb arall), mae hyn yn dangos pa mor werthfawr ydych chi fel unigolyn yn y tîm, ac adlewyrchu’r ideoleg honno gyda phobl eraill sy’n defnyddio’r gwasanaeth…’

Aelod o staff

Beth a ddysgwyd gennym?

Mae galluogi rhywun i ddarganfod ei wir hunan yn gallu bod yn drawsnewidiol. Ond fe wnaethom ddysgu bod pawb yn profi newid mewn ffordd wahanol. Dysgwyd bod angen cefnogi’r broses hon yn fwy effeithiol e.e. sicrhau amser ar gyfer meithrin diwylliant arloesi.

Y pethau a ddysgwyd yn sgil Prosiect Cymheiriaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

  • ‘Ewch amdani, gall drawsnewid eich bywyd’Becky, Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
  • ‘Mae’n waith gwerth chweil ac mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth’ Hev, Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
  • ‘Profiad trawsnewidiol’Jen, Arweinydd y Tîm Mentoriaid Cymheiriaid
  • ‘Mae’n cymryd amser – peidiwch â’i ruthro’Jess, Arweinydd Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
  • ‘Cynghreiriaid dibynadwy – maen nhw’n llawn tosturi ac yn meddu ar brofiad a all gefnogi eich tîm a’ch gwasanaeth’Mel, Dirprwy Reolwr y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Arbenigol ac Iechyd Meddwl Oedolion

Beth fyddwn yn ei wneud nesaf?

Mae Mentoriaid Cymheiriaid i’w cael ym 56% o dimau Iechyd Meddwl Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. O gofio’r angen taer am weithlu cynaliadwy wrth i’r galw am ofal iechyd gynyddu, ein nod yw ymwreiddio Mentoriaid Cymheiriaid ym mhob gwasanaeth. Ein gobaith yw y bydd pawb a fydd yn defnyddio gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd, rhyw ddydd, yn cael yr opsiwn i weithio gyda Mentor Cymheiriaid.