Neidio i'r prif gynnwy

Ein Partneriaid yn y Trydydd Sector: Growing Space.

Cefndir

Elusen iechyd meddwl gofrestredig a sefydlwyd ym 1992 yw Growing Space. Mae’n arbenigo mewn cynorthwyo unigolion â phroblemau iechyd meddwl, awtistiaeth neu anabledd dysgu. Rydym yn helpu i feithrin eu hyder, i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol ac i wella ansawdd eu bywydau.

Fel sefydliad â 28 mlynedd o brofiad, mae Growing Space yn cydnabod bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn aml yn cael eu hallgáu. Felly, mae Growing Space yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy helpu pobl i fod yn rhan o’r gymdeithas drachefn, yn ogystal â lleihau ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd a mynd i’r afael â’r stigma sy’n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, awtistiaeth neu anabled dysgu. Gwna hyn trwy ganolbwyntio ar allu pob un o’r cyfranogwyr, yn hytrach nag ar eu hanallu.

Beth sydd wedi’i wneud hyd yn hyn?

Ym mis Rhagfyr 2021, rhoddwyd Gwasanaeth Mentoriaid Cymheiriaid Iechyd Meddwl Growing Space ar waith yn Adran Argyfwng Ysbyty Athrofaol y Faenor (gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl Drws Ffrynt Ysbyty Athrofaol y Faenor). Mae’r tîm yn cynorthwyo unigolion sy’n aros am sylw yn Adran Argyfwng Ysbyty Athrofaol y Faenor ac sydd angen rhywfaint o gymorth neu gysur – yn cynnwys pobl mewn trallod sy’n dweud bod eu problemau wedi dechrau’n ddiweddar a’u bod wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig.

Mae’r tîm wedi cael croeso gan staff a chleifion fel ei gilydd. Mae wedi ennill ei blwyf yn barod a chaiff geisiadau rheolaidd am gymorth oddi allan i’r Tîm Cyswllt Clinigol. Mae’r tîm wedi meithrin perthynas weithio wych gydag aelodau’r tîm Argyfwng ac mae’n parhau i ddysgu ganddynt yn ystod pob sifft, gyda’r naill yn cynnig cymorth i’r llall ac yn defnyddio sgiliau’i gilydd i esgor ar y canlyniadau gorau i bobl. Ymhellach, mae cydweithio gyda chydweithwyr yn yr Adran Argyfwng yn hyrwyddo’r manteision sy’n perthyn i gydberthnasau gweithio integredig, yn cynnwys galluogi’r naill i gynorthwyo’r llall i bennu pwy a allai elwa ar gymorth gan Fentoriaid Cymheiriaid tra’n eistedd mewn ystafelloedd aros Adrannau Argyfwng (yn cynnwys unigolion nad ydynt yn aros am asesiad clinigol iechyd meddwl ond a allai fod mewn gofid neu angen cymorth). Mae’r trefniant wedi creu cydberthnasau a meithrin ymddiriedaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Growing Space a’i waith anhygoel yma: Growing Space – Hyfforddiant Iechyd Meddwl Cymru