Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw mentora cymheiriaid?

 

“Mae fy Nyrs yn gwybod popeth a ddywed y llyfrau, ond mae fy Mentor Cymheiriaid yn gwybod pob dim ar sail ei brofiad bywyd”

‘Arbenigwyr trwy Brofiad’ – Disgrifir ‘mentora cymheiriaid’ fel proses lle mae unigolyn yn rhannu ei brofiad bywyd mewn perthynas â materion iechyd meddwl gyda phobl eraill a all fod yn newydd i’r profiad hwnnw. Er enghraifft, yng ngwasanaethau iechyd meddwl y GIG, mae unigolion â phrofiad o faterion iechyd meddwl yn rhan o wasanaethau sy’n cynorthwyo pobl eraill a gaiff anawsterau iechyd meddwl.

Nod mentora cymheiriaid yw gwneud i bobl deimlo’n fwy gobeithiol a grymuso defnyddwyr y gwasanaeth i adfer, gan gynorthwyo unigolion, cerdded ochr yn ochr â nhw a modelu siwrnai sy’n canolbwyntio ar adfer. Fe’i seilir ar dair prif egwyddor, yn cynnwys: creu partneriaeth gyffredin; galluogi’r naill i ddysgu gan y llall; a grymuso pobl trwy gyfrwng dull sy’n seiliedig ar gryfderau ac sy’n canolbwyntio ar adfer.

Mae Mentoriaid Cymheiriaid yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau strwythuredig, yn cynnwys: gweithgareddau hamdden cymdeithasol, rhaglenni galwedigaethol ac addysgol i hyrwyddo ac ategu llesiant unigolion. Trwy rannu gwybodaeth a enillwyd ar sail profiad bywyd, nod Mentoriaid Cymheiriaid yw ennyn gobaith ymhlith pobl a’u helpu i gredu y gallant gael bywyd cadarnhaol ac ystyrlon.

Hefyd, mae nifer cynyddol o fentoriaid cymheiriaid gwirfoddol a thaledig sydd wedi hen ennill eu plwyf yn gweithio o fewn y rhanbarth, a phleser mawr yw cael dweud bod y Gyfarwyddiaeth Oedolion yn bwriadu ymestyn rolau cymheiriaid ymhellach ar draws timau clinigol, a bod cynlluniau ar y gweill i droi’r rolau hyn yn rhai parhaol.