Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae'n gweithio?

Mae’r dystiolaeth yn gymysg o ran ansawdd a chanlyniadau. Ond ceir dangosyddion cryf sy’n awgrymu bod ymyriadau gan fentoriaid cymheiriaid yn cael effaith gadarnhaol ar lefel yr unigolyn (e.e. gwell adferiad personol a gwell ansawdd bywyd) ac ar lefel sefydliadol (e.e. cost-effeithiolrwydd, datblygu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar adfer), gan arwain at dwf diweddar yn y rôl oddi mewn i wasanaethau iechyd meddwl y GIG.

Er enghraifft: mae Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Swydd Gaergrawnt a Peterborough wedi cynnig gwaith i 60 o Fentoriaid Cymheiriaid ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Nottingham yn cyflogi mwy na 50 o fentoriaid o’r fath.

Mae nifer o sefydliadau’n cyflogi cymheiriaid fel hyfforddwyr, mewn swyddi cronfa/mentora gwirfoddol ar draws amrywiaeth o wasanaethau, er enghraifft:

  • Gwasanaethau Cleifion Mewnol, Argyfwng a Chymunedol i Oedolion
  • CAMHS
  • Gwasanaethau Oedolion Hŷn
  • Colegau Adfer