Neidio i'r prif gynnwy

Pwy yw aelodau'r Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid?

Mae’r Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid yn dîm amlddisgyblaethol gwobrwyol. Ym mis Ionawr 2021, cafodd y tîm statws parhaol er mwyn iddo allu datblygu, ymwreiddio a gwerthuso rolau Mentoriaid Cymheiriaid yn barhaus oddi mewn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Er balchder i’r tîm, ym mis Medi 2020 enillodd Wobr APT am feithrin iechyd meddwl da yn y gweithle, ac yn fwy diweddar ychwanegodd y tîm lwyddiant anhygoel arall at y rhestr, sef ennill y Wobr Iechyd Meddwl yng Ngwobrau Iechyd a Gofal De Cymru 2022.

Y Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid yw’r tîm cyntaf o’i fath yng Nghymru – tîm sy’n ymgorffori profiad bywyd ac arbenigedd clinigol.

Mae’r tîm yn cynnwys:

  • Arweinydd Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
  • Arweinydd Tîm, Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid
  • Gweithwyr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid

Caiff aelodau’r Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid eu cyflogi er mwyn darparu trefniadau llywodraethu arloesol a diogel i fentoriaid cymheiriaid ledled y Bwrdd Iechyd a chynnig cymorth, proses ymgynghori a hyfforddiant i bob mentor a thîm perthnasol drwy gydol y camau recriwtio, cyflogi, datblygu a gwerthuso. Hefyd, mae’r tîm datblygu’n cynnig proses ymgynghori i dimau rhanbarthol sydd, efallai, yn ystyried datblygu’r rôl oddi mewn i’w gwasanaeth yn y dyfodol.

Y Tîm Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid


Arweinydd Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid

Dr Jessica Woolley

Arweinydd Tîm, Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid

Jen Sadler

Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid

Hev James

Gweithiwr Datblygu Mentoriaid Cymheiriaid

Becky James