Mae ein gwasanaeth Seicoleg a Chwnsela yn cynnig ymyriadau sydd wedi’u teilwra’n benodol i alluogi newid ymddygiad a fydd yn cefnogi colli pwysau. Ni allwn ddarparu gwasanaeth Iechyd Meddwl cyffredinol.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, defnyddiwch y canlynol:
- Os ydych eisoes wedi cael rhif Llinell Argyfwng gan weithiwr iechyd proffesiynol, ffoniwch ef. Os ydych o dan ofal tîm iechyd meddwl a bod gennych gynllun gofal penodol sy'n nodi pwy i gysylltu â nhw pan fydd angen gofal brys arnoch, dilynwch y cynllun hwn.
- Ffoniwch GIG 111 (Opsiwn 2) – Mae hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae’n rhad ac am ddim i’w ffonio o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gan y galwr gredyd ar ôl) neu o linell dir. Bydd hyn yn eich cysylltu â thîm o ymarferwyr iechyd meddwl profiadol a fydd yn asesu eich sefyllfa ac yn eich helpu i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnoch.
- Archebwch Apwyntiad Meddyg Teulu Brys. Mewn argyfwng, dylid cynnig apwyntiad i chi gyda'r meddyg cyntaf sydd ar gael.