Mae’r Tîm Beichiogrwydd Iach yn darparu cymorth a chyngor i’ch helpu i fwyta’n dda, bod yn actif a rhoi pwysau ymlaen mewn ffordd iach yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt.
Buddion Bwyta'n Dda a bod yn Actif yn Ystod Beichiogrwydd
Gall bwyta'n iach yn ystod beichiogrwydd helpu eich babi i ddatblygu a thyfu.
-
Gwella cwsg a chylchrediad
- Helpu i leihau blinder
- Gwella ffyrfder cyhyrau a chryfder
- Ymdopi'n well gyda geni'r babi
- Gwell iechyd i chi a'ch babi yn nes ymlaen mewn bywyd
- Helpu gyda chywirdeb sganiau ac archwiliadau
- Lleihau'r tebygolrwydd o iselder ol-enedigol
- Gall bwyta'n iach helpu i wella anaemia a rhwymedd
- Gwella eich hwyliau, eich gallu i ganolbwyntio a'ch lles
- Lleihau'r risg o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd a phwysedd gwaed uchel
Manylion cyswllt
Rhif ffôn: 0300 303 4906 – Opsiwn 3
E-bost: ABB.HealthyPregnancyTeam@wales.nhs.uk
Rydym yn aml yn rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol; Gallwch ddilyn yma:
Cymorth
Rydym yn gobeithio eich bod wedi dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, os na, anfonwch e-bost atom a rhowch wybod i ni beth hoffech ei weld.