Mae'r grŵp bwyta emosiynol yn ymyriad grŵp rhyngweithiol personol ar gyfer y rhai sy'n teimlo bod angen cymorth arnynt gyda bwyta emosiynol/cysurol neu gorfwyta. Mae wedi'i gynllunio i helpu pobl i ddeall a dysgu mwy am eu hemosiynau.
Byddwch yn dysgu dulliau effeithiol, amgen i reoli eich emosiynau, yn hytrach na defnyddio bwyd neu ddiod.
Mae’r rhaglen yn cynnwys chwe sesiwn, naw deg munud yr un dros chwe wythnos ac ar hyn o bryd fe’u cynhelir yng Nglynebwy a Chasnewydd.