Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Beichiogrwydd Iach

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sydd yn feichiog ers o leiaf 12 ac sydd â BMI o 30 neu fwy. Mae’r Tîm Beichiogrwydd Iach yn darparu cymorth a chyngor i’ch helpu i fwyta’n dda, bod yn actif a rhoi pwysau ymlaen mewn ffordd iach yn ystod beichiogrwydd a thu hwntMae ein tîm yn cynnwys Deietegwyr ac Ymarferwyr Cynorthwyol Mamolaeth a all gynnig sesiynau un-i-un wedi'u teilwra i chi, grwpiau i'ch cefnogi gyda bwyta'n iach a choginio yn ogystal â dosbarthiadau ymarfer cyn geni lleol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Taflen Beichiogrwydd Iach.

I ddarganfod mwy a chwrdd â'r tîm, gwyliwch y fideo canlynol.

Gwybodaeth ac Adnoddau Defnyddiol

Isod mae dolenni i adnoddau defnyddiol, sut y gallech gael eich cyfeirio a sut i gysylltu â ni. 

Efallai y bydd eich bydwraig yn cynnig cymorth i chi ac yn eich cyfeirio at y Tîm Beichiogrwydd Iach ar ddechrau eich beichiogrwydd. Os teimlwch eich bod yn bodloni’r meini prawf ac yr hoffech gael cymorth, cysylltwch â ni dros y ffôn ar: 0300 303 4906 (opsiwn 3). 

I gael adnodd rhyngweithiol a all eich cefnogi gyda newidiadau iach, mae ap Foodwise yn ystod beichiogrwydd am ddim i'w lawrlwytho o'r Google Play neu'r App Store.

Gall yr Ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd weithio ar ei ben ei hun neu ochr yn ochr â chymorth gan y Tîm Beichiogrwydd Iach i gynnig gwybodaeth ac awgrymiadau i fenywod ar fwyta'n iach, cadw'n heini a sicrhau cynnydd pwysau iach yn ystod beichiogrwydd. Mae'n rhannu gwybodaeth yn chwe adran y gallwch weithio drwyddynt ar eich cyflymder eich hun. Gyda gemau rhyngweithiol, cwisiau ac offer, mae'n cynnwys awgrymiadau a chyngor ar gyfer cyflawni diet iach, syniadau ymarferol ar gyfer cadw'n heini, ryseitiau, awgrymiadau siopa a chynlluniwr prydau bwyd, yn ogystal ag ymarferion beichiogrwydd diogel cam wrth gam.

Taflen Ffeithiau Bwyd BDA - Beichiogrwydd - I gael gwybodaeth gryno a chyngor ar faeth a diogelwch bwyd yn ystod beichiogrwydd

 

Gwefannau ar gyfer beichiogrwydd

 

Ryseitiau a syniadau prydau bwyd yn ystod beichiogrwydd ac ar gyfer y teulu cyfan


 

Fideos