Os ydych yn pryderu y gallai rhywun fod yn risg sylweddol ac uniongyrchol iddynt eu hunain o ran hunanladdiad neu hunan-niwed, ystyriwch y canlynol:
Os yw’r unigolyn sy’n wynebu risg yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty St Woolos, ac o oedran gweithio, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig
Os yw’r unigolyn sy’n wynebu risg yn glaf mewnol yn Ysbyty Brenhinol Gwent neu Ysbyty St Woolos ac yn 65 oed neu’n hŷn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyswllt Oedolion Hŷn Arbenigol
Os yw'r unigolyn mewn perygl o dan 18 oed, cysylltwch ag Uned Plant a Phobl Ifanc Tŷ Bryn yn Ysbyty Sant Cadog (Ffôn: 01633 436833, ffacs: 01633 436834) neu drwy'r ymgynghorydd CAMHS ar alwad y tu allan i oriau.
Os yw’r unigolyn yn glaf mewnol ar safle ysbyty arall, cysylltwch â’r Ddesg Ddyletswydd yn y tîm iechyd meddwl cymunedol oedolion neu oedolion hŷn (TIMC) lleol (gweler y rhifau isod)
Os yw’r unigolyn yn glaf allanol cysylltwch â’i Feddyg Teulu a/neu’r Ddesg Ddyletswydd yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) lleol (gweler y rhifau isod)