Rydym yn darparu cymorth seicolegol arbenigol uniongyrchol i bobl sy'n profi trallod sylweddol a pharhaus sy'n gysylltiedig â'u diagnosis canser.
Gallwn ddarparu cyngor ar gyfeirio at wasanaethau priodol.
Rydym yn gweithio gyda phobl dros 18 oed sydd wedi cael diagnosis o ganser. Rydym yn cefnogi anghenion pobl sy'n ymdopi ag effaith canser yn eu bywydau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw.
Mae'r gefnogaeth a gynigiwn yn unigol, yn dibynnu ar y rheswm pam fod person wedi penderfynu ceisio cymorth gan seicolegydd. Isod mae rhai o'r pethau y gallwn helpu gyda nhw ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
“Roedd yn hynod o ddefnyddiol. Pan ddaeth fy nhriniaeth i ben, dyna pryd y sylweddolais wir effaith yr hyn roeddwn wedi bod drwyddo, felly roedd cael rhywun diduedd i drafod fy nheimladau, fy ofnau a’m pryderon gyda nhw yn help mawr.”
“Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn byth yn gallu dod allan o’r ffordd roeddwn yn teimlo nac y byddai’r hunllefau cylchol yn dod i ben, ond rwyf wedi cael cymaint o gymorth.”
“Roedd fy sesiynau gyda fy seicolegydd iechyd clinigol yn llawer gwell nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Nid wyf erioed wedi teimlo fy mod wedi cael cymaint o wrandawiad nac wedi teimlo mor ddiogel. Ni chefais fy marnu; gwnaethpwyd i mi deimlo fy mod yn cael fy nghefnogi, fel petawn i’n cael llais ac fel petai’r llais hwnnw’n cael ei glywed. Rwy’n hynod ddiolchgar am gael y cyfle i fynychu’r sesiynau hyn.”