Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai grŵp

O fewn y Gwasanaeth Seicoleg Canser, rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai grŵp i gleifion a all helpu unigolion i reoli ac ymdopi â rhai o'r anawsterau y maent yn eu profi.

Mae'r grwpiau i gyd yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eich helpu i reoli'r trallod seicolegol y gallech ei brofi wrth ymdopi ag effaith canser yn eich bywyd.

Ni ofynnir i bobl sy'n mynychu'r grŵp rannu unrhyw wybodaeth bersonol amdanynt eu hunain a'u sefyllfa iechyd oni bai eu bod yn teimlo'n gyfforddus i rannu ag eraill yn y grŵp.

Mae pobl sy’n mynychu’r grwpiau yn dweud:

“Dw i wedi dysgu gwerthfawrogi gwneud y pethau bach, dw i’n chwynnu fy ngardd ac yn tyfu pys melys hyfryd. Fy ngwraig a minnau, rydyn ni wrth ein bodd yn cerdded ar y traeth ac yn tynnu lluniau yn y tywod”

“Mae fy nghanser wedi dod yn ôl, rwy’n byw fy hunllef waethaf! Ond gallaf fod yn fi o hyd a gofalu amdanaf fy hun trwy fyw'r bywyd yr wyf am ei fyw hyd yn oed trwy driniaeth, ni all neb gymryd y rheolaeth honno i ffwrdd'

“Roedd gweithio allan ein gwerthoedd a’n pethau yn ddefnyddiol oherwydd mae’n gwneud i chi werthuso sut oedd eich bywyd o’r blaen, beth oedd yn bwysig. Mae'n gwneud i chi feddwl sut rydych chi wedi dod drwodd, beth sy'n bwysig nawr a sut gallwch chi symud ymlaen."

“Cefais fy syfrdanu pan sylwais nad wyf mewn gwirionedd yn ffrwydro gyda dicter na phryder... ni all y teimladau fynd yn fwy na fy nghorff hyd yn oed pan fyddant mor boenus... mewn ffordd ryfedd mae wedi rhoi ymdeimlad o reolaeth i mi ”