Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael cymorth?

Dim ond gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaeth Gwasanaethau Canser sy’n gallu atgyfeirio i’n gwasanaeth, siaradwch â’ch nyrs arweiniol neu ymgynghorydd os hoffech drafod atgyfeiriad.

Mae’r ffurflen atgyfeirio, y meini prawf atgyfeirio a’r daflen wybodaeth i gleifion ar gael gan Abb.clinicalpsychologyreferrals@wales.nhs.uk

 

Cysylltwch â ni:

Ffôn: 01633 238292

Nid oes bob amser aelod o'r tîm yn y swyddfa felly os byddwch yn gadael neges bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Cyfeiriad:
Swyddfa Seicoleg Glinigol,
Ysbyty St Woolos,
Stow Hill,
Casnewydd
NP20 4SZ

 

Cefnogaeth ychwanegol

Cymorth Canser Macmillan www.macmillan.org.uk ffôn: 0808 808 00 00
Mae Macmillan yn cynnig gwybodaeth a chymorth cyfrinachol am ddim i gleifion, perthnasau, gofalwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd sydd wedi'u heffeithio gan ganser.

Gwasanaeth Cwnsela Macmillan www.macmillan.org.uk ffôn: 0808 808 00 00 (mewn partneriaeth â Bupa).
Mae Macmillan hefyd yn darparu cwnsela o bell i unigolion sy'n byw gydag effaith emosiynol canser. Gallwch ffonio'r rhif hwn i holi ymhellach a holi am wasanaeth Bupa.

Mae Maggie’s yn elusen sy’n darparu cymorth canser a gwybodaeth am ddim mewn canolfannau ledled y DU ac ar-lein (gellir dod o hyd i ganolfannau lleol yn Abertawe a Chaerdydd). Gallwch gerdded i mewn i unrhyw ganolfan a chael cymorth seicolegol ar unwaith. Maggie's: www.maggies.org Ffôn: 029 2240 8024

Gofal Canser Tenovus : 0808 808 10 10 (Bob dydd, 8:00am - 8:00pm)